Cefnogi Amrwd

Posted: April 5th, 2011 | Author: | Filed under: Dim Categori | No Comments »

Helo blantos, Elis yma!

Fel dechi’n gwybod, mae amrwd yn rhyddhau pob dim am ddim, sy’n ffordd dda iawn o gael sdwff newydd sbon gan artistiaid newydd a chyffrous allan i chi’n gyflym. Mae’r tacteg yma ‘di gweithio’n dda i fandia fel Plant Bach Annifyr, Kevin a Segur etc. Yn anffodus tydi rhedeg y wefan ddim yn jobyn rhad, mai’n bell o fod yn ddrud, ond mai dal i gosdio.

Felly, be fydd amrwd yn cychwyn ei neud o hyn ymlaen ydi rhyddhau pob sengl, EP ac album ar siopa digidol fel iTunes ac Amazon i rhoi’r opsiwn i chi dalu’r artistiaid am eu deunydd ac helpu amrwd gario mlaen fel label bach handi. Mi fydd y rhanfwya’ o’r pris dechi’n dalu’n mynd i boced yr artist. Os dechi’m yn meddwl fod hi werth talu, ddim yn siwr sut beth ydi’r deunydd neu’n dlawd, peidiwch a phoeni, mi fydd pob dim dal ar gael i chi lawrlwytho’n rhad ac am ddim!

Os dechi awydd cyfrannu, dyma linc amazon i bob dim sydd ‘di rhyddhau (mana ambell EP ar goll am resymau cyfreitihol etc.). Mae pob dim ar iTunes, os dechi awydd defnyddio’r siop yna, ewch amdani. Me’r linciau perthnasol ar tudalen manylion y rhyddhad.

Erbyn canol/diwadd Mai, mi fydd pob dim hefyd ar Spotify.

I ddod ar amrwd

Waeth i mi gymeryd y cyfle yma i ddeud be sy’n mynd i ymddangos ar amrwd yn y dyfodol agos:

  • Mi fyddai’n recordio sesiwn amrwd gyda Y Gwehilion dros y gwylia’
  • Mi fydd Emrys gynt o Cymdeithas yr Hobos Unig yn rhyddhau ei EP newydd o dan yr enw Alvy Singer
  • Mi fydd y Plant Bach Annifyr yn mynd mewn i’r stiwdio i recordio sengl/EP newydd (Os fydd Plentyn 1 a Plentyn A dal yn ffrindia’)
  • Sdwff newydd gan Segur iw ryddhau ar 05/04/11

Diolch yn fawr iawn i bwy bynnag fydd yn prynnu rhywbeth, a diolch enfawr i bawb sydd ‘di cefnogi amrwd.com a phob dim perthnasol fel y podcast.

Elis.


Sengl Newydd Plant Bach Annifyr

Posted: March 6th, 2011 | Author: | Filed under: Dim Categori | No Comments »

Wedi ei recordio yn eu stiwdio yn Aberystwyth. Mae’r Plant Bach Annifyr wedi dewis recordio eu sengl cynta’ mewn blwyddyn a hanner.

Mae’r sengl yn un dor-calonus am gyn-gariadon. Mae’n bosib lawrlwytho’r sengl yma.

Mae Gwrachod hefyd ‘di neud remix, mai’n bosib gwrando iddi yma.


EP newydd Gwrachod

Posted: January 4th, 2011 | Author: | Filed under: Gwrachod, Lawnsio | No Comments »

Ar y 4ydd o Ionawr mi fydd y grwp faux-chiptune Gwrachod yn rhyddhau eu ail EP, 4 Gwrach. Mae’r EP yn cynnwys 3 trac newydd yn ogystal a trac wedi ei ail-wneud o’r EP cynt.
null

Dymar manylion:

1. SaiMo
2. Hawai 5-OH
3. Ceffylau a Mulod
4. Dawns y Gwrachod 2

Mae’r EP iw lawrlwytho oddi ar bandcamp y band, sef: http://gwrachod.bandcamp.com


EP Newydd Gwrachod

Posted: November 29th, 2010 | Author: | Filed under: Gwrachod, Lawnsio | No Comments »

Tachwedd da i bawb!

Pan ath Plentyn Un o’r Plant Bach Annifyr i recordio demos i’r band (yn lle gweithio ar ei broject prifysgol), ddoth o allan hefo EP dodd ddim yn berthnasol i’r Plant Bach Annifyr. Dewisodd Plentyn Un o’r Plant Bach Annifyr alw ei hun yn ‘Gwrachod’ ar gyfer yr EP yma, fe roddodd y teitl ‘Os Gowni Plis Peidio?’ i’r EP.

Mae’r EP yn swnio fel faux-chiptune sef, yn ol Plentyn Un, “Swn agos i Chiptune, ond tydim yn deg galw hi’n chiptune oherwydd dim dyna ydio’. Eglur.

Mae’r EP yn cynnwys 3 trac gwreiddiol a fersiwn 8-bit o Breuddwyd Roc a Rol gan Edward H. Dafis.

Mae’n bosib gwrando i’r EP WAN ar http://gwrachod.bandcamp.com

Mi fydd yr EP yn cael ei ryddhau ar wefan amrwd ar Rhagfyr 8fed.


Ypdets Galor.

Posted: October 25th, 2010 | Author: | Filed under: Dim Categori | No Comments »

Helo plantos bach Amrwd.com, ma geni ypdets i bawb.

Sesiwn Amrwd 1af

Ma’ amrwd am drio cael artistiad amrywiol i recordio sesiynau acwstic (am wan) a gadael i chi bobl eu gwylio a lawrlwytho. Fel peilot bach, nath Iwan Huws ddod draw i recordio un yn yr ardd. Dyma chi un fidio (mae’r gweddill ar y wefan);

Mai’n bosib lawrlwytho’r sesiwn fel MP3 am ddim, fyddi’n bosib lawrlwytho’r sesiwn fel fidio’n fuan.

Plelist Spotify Sion

Mae Sion (Bob, Jazzffync a Gemau Fidio), wedi neud plelist i’r wefan i chi gal gwrando ar Spotify, ewch yma i wrando iddi, mai’n dda.

Bandcamp

Yn fuan, fydd miwsic amrwd i gyd ar wefan bandcamp, mae hyn yn golygu fydd hi’n bosib gwrando i’r holl EPs etc. heb lawrlwytho unrwbeth. Hwre!

Ddat is ol,

Elis.


Chwain

Posted: October 10th, 2010 | Author: | Filed under: Dim Categori | No Comments »

Prosiect Meic Parry sy’n berson (go iawn) 22 oed (bron iawn) o Gaernarfon sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Er fod o hefo myspace ar gyfer band, tydio’m yn galw ei hun yn fand. Ond mae o’n recordio ambell gan yn achlysurol – a ma hynny’n fwy na ma rhei bands yn neud dyddia yma. Dyma dau drac ganddo.

Segur - Byw / A

Teitl: Chwys / Atgofion Neges Destun
Artist: Chwain
Album: Chwys / Atgofion Neges Destun

Cliciwch yma i Lawrlwytho’r Sengl


Podcast 1 a 2

Posted: July 30th, 2010 | Author: | Filed under: Dim Categori | No Comments »

Shwd hwyl?

Wel dani di neud rwbath newydd or diwadd! Podcast newydd o’r enw “Jazz Ffync a Gemau Fideo”. Dwi a Sion Blin di bod yn brysur yn y garej yn reocrdio ni’n malu cachu a chwara amball gan hefyd. Ewch am gwrandawiad bach a mana opsiwn i lawrlwytho bob rhaglen fel ma bob un yn cael ei rhyddhau. Ar y gwefan ar hyn o bryd mana ddwy rhaglen i fyny…. dwi’n gobeithio gwella fydd y drefn efo bob podcast. Wel joiwch nhw de, a taro ebost i mi os dachi awydd deud rwbath (dani’m yn ffysd iawn be dachi awydd deud) i emryshobo@googlemail.com.

Tara am y tro,

Emrys.


Cymdeithas yr Hobos Unig, Clwb Ifor Bach

Posted: May 6th, 2010 | Author: | Filed under: Dim Categori | Tags: , , , , , | No Comments »

Hi ho. I’r heini sydd ddim yn dilyn amrwd ar facebook (say what?), mae Cymdeithas yr hobos unig yn chwarae eu gig (olaf?) yn Gaerdydd dydd Sadwrn yma. Mae’r band yn chwara’ gyda The Violas a Mr.Huw. Y gig i gychwyn am 8.30 a mai’n cosdio 6 och punnoedd Prydeinig. BOSH.


Playlist Spotify: Iwan Huws

Posted: May 5th, 2010 | Author: | Filed under: Playlist Spotify | Tags: , , , | No Comments »

Sh’mae? Mae Iwan Huws wedi bod mor garedig a gwneud playlist i amrwd, mai’n bosib gwrando iddi ar Spotify gyda’r linc canlynol: http://open.spotify.com/user/gringoorinjo/playlist/2q7OFmDZw9lTL5HneKcyGY , dyma beth sydd arni:

The Golden Age – Beck
A Slow Parade – AA Bondy
Sad Sad Feet – Cate le Bon
Run Chicken Run – The Felice Brother
People Got a Lotta Nerve – Neko Case
Winterlong – Neil Young
Alone Again Or – Calexico
My Darling – Wilco
Qui Est “In” Qui Est “Out” – Serge Gainsbourg
House By the Sea – Iron & Wine
Puff, The Magic Dragon – Bonnie “Prince” Billy
Face Like Summer – Gorky’s Zygotic Mynci
I’d Run Away – The Jayhawks
Underground – The Upsetters
Can I Sleep In Your Arms – Phosphorescent

Phew, diolch Iwan, nowni drio gal playlist arbennig arall ar amrwd yn fuan.


Newyddion Cymdeithas yr Hobos Unig (Good Night Sweet Prince?)

Posted: April 14th, 2010 | Author: | Filed under: Cymdeithas yr Hobos Unig | Tags: , , , , , , , | No Comments »

Ma Emrys newydd ychwanegu y blog yma ar ei myspace llu oni’n meddwl ail-blogio’r peth i dilynwyr blog amrwd.com:

Helow dder pipyl,

Gen y band gig yn Glwb Ifor ar Mai 7fed a dwi eithaf siŵr hwn fydd 3ydd a gig olaf Cymdeithas yr Hobos Unig. Mewn gwirionedd di hynny ddim yn golygu dim byd rili ond i fi maeo golygu rwbath. Dani/Dwi erioed di bod yn band go iawn a oeddo wastad yn democracy with a muted dictator + genai llond llaw o caneuon, ond dim fel rhai unigolion ar y we dwi jesd methu recordio nhw neu chwara nhw i pobl, a bedi point cael band pryd ma’r boi sy’n sgwennu’r caneuon rhy ofn dangos be maeo di sgwennu?

Dwi am ddechrau rwbath newydd a fydd tebyg i stwff rili rili cynnar CYHU, blêr a iffy ond rwbath nai mwynhau gobeithio. Fydd yr “Alvy Singer Syndrome” cael ei recordio o dan y thing newydd ma.

*Yn y gig fydd na CD am ddim sydd am fwyathebyg cynnwys tair gan, ond yn naturiol ni fydd digon i bawb….so dewch reit fuan de!!

Wel nafo, dwmbo pwy sy’n darllan hein de, neu hyd yn oed pwy sydd am poeni am band sydd wedi neud tair gig a wastad allan o le yn yr SRG….ond see u soon people.

Emrys